Cy:Caerdydd
List of rides > UK > Cy:Caerdydd
There is also an English language version of this page: Cardiff
WNBR Caerdydd - Taith Feicio Noeth y Byd! - Sadwrn 14 Mehefin 2014
Mae Taith Feicio Noeth y Byd - Caerdydd - yn tynnu sylw at y taer angen i ddianc rhag dibynnu ar gerbydau, ac i ganolbwyntio, yn hytrach, ar rym a natur unigryw yr unigolyn.
- Gwrthdystio yn erbyn dibynnu ar olew
- Ymgyrchu i roi ffrwyn ar ddiwylliant y car
- Hyrwyddo ynni gwyrdd
- Cefnogi cludiant cynaliadwy
- Gwneud beicio’n fwy diogel i bawb
- Dathlu ein beiciau a’n cyrff
Cysyllter â
Contact
- Grŵp Facebook : www.facebook.com/home.php?sk=group_194410707262234
- Tudalen Facebook : www.facebook.com/cardiffwnbr
- Taith 2012 ar Facebook : [1]
- Grŵp Yahoo : groups.yahoo.com/group/wnbr-cardiff
- Cyd-gysylltwyr : Ronnie Basson – E-bost [email protected] / Ffôn 07880 854678 & Nick Wysoczanskyj - Ffôn [email protected] / Tel 07929 212507
Rhoddwch i Gronfa Taith Feicio Noeth y Byd yn y Deyrnas Unedig
Mae Cronfa Taith Feicio'r Byd yn y Deyrnas Unedig yn rhoi arian i'r trefnwyr
lleol at argraffu posteri a thaflenni, at hysbysebu, at offer i'r daith ac yn y blaen.
Gofynnwn, yn garedig, ichi roddi yn hael.
Contents
Y Daith Nesaf
Dyddiad: Sadwrn 15 Mehefin 2013
Amser: 3pm
Lleoliad: efallai'n cychwyn eto o Blas y Parc, y man glaswelltog y tu ôl i'r Amgueddfa Genedlaethol National Museum ac nid nepell o Brif Adeilad Prifysgol Caerdydd Cardiff University Main Building ]. Gweler isod am gyfeiriadau pellach.
Hanes
2010
Adroddiad Taith 2010 - Ar ddydd Sadwrn, 12 Mehefin, dyma Gaerdydd yn mentro cymryd rhan yn Ras Feicio Noeth y Byd am y trydydd tro. Unwaith eto, llwyddiant mawr oedd y daith, sydd yn tynnu sylw at yr angen i beidio â bod mor ddibynnol ar olew ac at y modd y gall beicwyr gael eu hanafu yn hawdd yn nhraffig y ddinas, ac sydd hefyd yn hyrwyddo rhyddid i'r corff. Mae adroddiad llawn ar y gweill!
2009
62 o feicwyr a roddodd gychwyn i'r daith, yn ôl adroddiad Facebook event, ond gwnaethon ni godi rhagor o feicwyr wrth fynd ymlaen, a 67 a oedd yno ar y diwedd.
Adroddiad Taith 2009 - Ar ddydd Sadwrn, 13 Mehefin, cymerodd Caerdydd ran am yr ail dro yn Nhaith Feicio Noeth y Byd. Llwyddiant mawr oedd y daith, a oedd yn tynnu sylw at yr angen i beidio â dibynnu cymaint ar olew yn y dyfodol ac at y modd y mae'n hawdd i feicwyr gael eu hanafu yn nhraffig y ddinas. ’Roedd hefyd yn hyrwyddo rhyddid i'r corff. Wedi peth oedi wrth aros i'r heddlu ein hebrwng ac wrth newid y llwybr arfaethedig ar y funud olaf, dyma'r daith yn cychwyn am 4:15p.m. gyda 62 o feicwyr. Cafwyd ymateb gwych gan y cyhoedd; mae'n ymddangos bod y si wedi mynd ar led fod y daith yn cael ei chynnal ac ’roedd fel pe bai pobl yn ein disgwyl. Wedi codi pump o feicwyr ychwanegol hanner ffordd, dyma fynd yn ôl drwy'r dref a gorffen gyda 67 o feicwyr, nifer eithaf parchus. ’Roedd diddordeb y cyfryngau yn anhygoel. ’Roedden ni ar newyddion nosweithiol BBC Wales, a rhoddwyd tipyn o sylw inni yn Wales on Sunday ac yn y South Wales Echo. Cafodd y daith sylw yn Gymraeg hefyd, er enghraifft ar y blog hwn: [2] ’Roedd pawb wedi cael hwyl, ac mae taith y flwyddyn nesaf yn rhywbeth ’rydyn ni'n gwir edrych ymlaen ato. Gobeithio y gallwn ddenu nifer mwy y tro nesaf. ’Rwy'n credu bod nifer o bobl newydd am ymuno â ni, felly ’rydyn ni ar y blaen eisoes i 2010.
2008
Cynhaliwyd Taith Feicio Noeth y Byd yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ar 14 Mehefin, 2008. Cafodd y daith ei chynllunio o fewn amser eithaf byr gan griw brwdfrydig o feicwyr, a mynd o nerth i nerth a wnaeth y teimlad o frwdfrydfedd ac o ymroddiad yn eu plith. Dyma achlysur a oedd yn ysbrydoli, ac yn sgil hynny dechreuodd diddordeb yn nhaith 2009 fynd ar led i wahanol gyfeiriadau.
Adroddiad Taith 2008 Llwyddiant ysgubol oedd Taith Feicio Noeth y Byd pan gafodd ei chynnal gyntaf yng Nghaerdydd, yn daith gwbl anhygoel yn ôl sawl un! ’Roedd yr haul yn tywynnu, er gwaethaf y rhagolygon a awgrymai na fyddai'n braf, ac am 4.00 p.m., dyma 37 o feicwyr yn mentro allan i strydoedd prysur y brifddinas, a'r hwrlibwrli cymaint yn fwy am mai Diwrnod yr Hen Filwyr oedd hi a phobl eraill yn paratoi at gyngerdd gan Bruce Springstein! Dyma'r gymysgfa ryfeddol o bobl, wedi eu haddurno mewn amryw ffyrdd a chan wahanol sloganau, yn ymlwybro o Barc Cathays i Fae Caerdydd ac yn ôl wedyn drwy briffyrdd y ddinas. Cafwyd ymateb bendigedig gan y cyhoedd, a nhwthau wedi cipio pob un o'r taflenni ar y daith mewn dim o dro! Rhoddwyd sylw i'r achlysur, mewn ffordd gadarnhaol, mewn sawl man ar y cyfryngau. ’Roedd yr heddlu a fu'n hebrwng y beicwyr yn effeithlon ac yn gyfeillgar. ’Roedd y beicwyr a gymerodd ran yn dod o Gaerdydd a'r fro yn bennaf, ond ’roedd ychydig o Fryste, o Henffordd ac o fannau eraill. Curo eu dwylo'n frwd a wnaeth y beicwyr wedi cyrraedd pen ein taith yng Ngerddi Sophia, ac addo mynd yn ôl ymhen y flwyddyn i fwynhau achlysur mwy cadarnhaol a grymus byth.
Am y daith
Man ymgynnull
Fel yn y gorffennol, man caeedig, tawel, glaswelltog a choediog fydd y man ymgynnull, un hawdd cael hyd iddo y tu ôl i'r Amgueddfa Gendlaethol. Mae'r Amgueddfa yn y ganolfan ddinesig, ym Mharc Cathays, yn union drws nesaf i Neuadd y Ddinas, â'i thŵr adnabyddus. Mae'r man o dan sylw rhwng Plas y Parc a Choedlan yr Amgueddfa. Dyma fap map of the assembly location.
Cod gwisgo
Dewch mor noeth ag y mentrwch fod. Mae noethni'n gwneud datganiad gwych, a bydd llawer ohonon ni'n noeth lymun gorn eto eleni. Eto i gyd, os teimlwch yn fwy cyfforddus ag ychydig ddillad amdanoch, mae hynny'n hollol iawn hefyd. Ar y teithiau blaenorol, bu rhai'n gwisgo siorts, bronglwm, dillad nofio, penwisg, gwallt gosod, sbectol haul ac yn y blaen, a rhai'n peintio eu cyrff. ’Roedd y rhan fwyaf yn gwisgo esgidiau ac wedi dod â bag i gario eu dillad. ’Rydyn ni'n frwd o blaid peintio ac addurno'r corff, addasu beiciau at yr achlysur, dod â hambyrddau hadau hawdd eu cludo a ffyrdd creadigol eraill o dynnu sylw.
Llwybr Taith 2012
Mae llwybr ein taith eleni heb ei benderfynu'n derfynol eto, ond bydd yn dilyn yn fras lwybr y teithiau a fu hyd yn hyn, sef o'r Ganolfan Ddinesig i'r Bae ac wedyn yn ôl i mewn i'r dref, gan gyrraedd Gerddi Sophia yn y pen draw. Ein gobaith eleni yw estyn y daith o amgylch y parc, os bydd y tywydd yn deg! Byddai hynny'n golygu na fyddai'n dod i ben mor sydyn ag yn y blynyddoedd a fu, am ein bod o'r blaen wedi beicio yn ôl i'r parc a gorffen yn y fan a'r lle. Cyhoeddwn union lwybr 2012 cyn gynted ag y bo modd. Ceir syniad go lew wrth edrych ar lwybr 2010 (isod).
Llwybr Taith 2011: Man Ymgynnull – Parc Cathays – y llecyn glaswelltog gerllaw Prif Adeilad y Brifysgol (wedi ei ffinio gan Blas y Parc a Rhodfa’r Amgueddfa).
Gan gychwyn am 4pm, cawsom ymdrefnu ar y llwybr sydd yn wynebu’r Rhodfa’r Amgueddfa.
Rhodfa’r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, i’r chwith i mewn i Rodfa’r Brenin Edward VII. Heol Gerddi’r Orsedd, i’r dde i mewn i Blas y Parc. Heol y Brodyr Llwydion, Heol y Gogledd. Heol y Dug, Heol y Castell, Heol y Porth, Heol y Santes Fair, Sgwâr Callaghan, Heol Bute, Heol Herbert, Rhodfa Lloyd George, .
Ar ôl Heol Hemmingway aethom ar y llwybr beiciau (y palmant chwith). Ar draws y groesfan i fynd heibio i du blaen Canolfan y Mileniwm, y tu ôl i Adeilad Pen y Pier. Oedwyd o flaen y Senedd.
Cychwynnwyd wedyn a mynd heibio i du blaen Adeilad Pen y Pier, gan ddychwelyd heibio i du blaen Canolfan y Mileniwm. I’r chwith ar draws y cwrt blaen i’r groesfan sydd yn arwain i lôn sydd yn mynd i’r gorllewin ar Rodfa Lloyd George.
Ar draws y groesfan ac yna i’r gogledd ar hyd Rhodfa Lloyd George. I’r chwith i mewn i Heol Herbert, ymlaen i Sgwâr Callaghan, Heol y Santes Fair, i’r dde i Lôn y Felin, yr Ais, Heol y Drindod, Heol Sant Ioan. I’r chwith i mewn i Heol y Dug, Heol y Castell, Dwyrain Heol y Bont-faen. Aethom ar y llwybr beicio (palmant chwith) ar draws Pont Caerdydd ac i mewn i Erddi Sophia.
Yn 2011, yn ddiweddglo, aethom o amgylch Gerddi Sophia er mwyn i feiciwr anabl ymuno â ni. Fel arfer, cawsom orffen ger tafarn y Mochyn Du, lle y gallwyd gwisgo a mynd am beint haeddiannol!
Cynghorir beicwyr i ddod â bag neu â basged feic i ddal eu dillad a’u heiddo
Cyfreithlondeb
’Roedd yr heddlu wedi hwyluso'r teithiau yn 2008 ac yn 2009; cafodd y beicwyr fod y swyddogion yn bur gymwynasgar, ac ’roedden nhw'n cydnabod yn llawn ein hawl i wrthdystio yn ein dewis ddull ein hunain. Yn 2009, dywedon nhw hefyd fod ymateb y cyhoedd wedi rhoi argraff arnyn nhw y tro cynt. Yn 2008, ’roedd un o'r hen filwyr a oedd yn cymryd rhan yn nathliadau Diwrnod yr Hen Filwyr wedi dweud wrth yr heddlu ei fod yn meddwl ei bod yn ardderchog. Ac egluro'r sefyllfa mewn ffordd syml, nid yw noethni ei hun yn erbyn y gyfraith yn y Deyrnas Unedig, ond gall fod yn anghyfreithlon defnyddio noethni gyda'r bwriad o aflonyddu neu er achosi braw neu ofid. Os na fyddwch yn ymddwyn mewn ffordd dramgwyddus neu anweddus, ni fyddwch yn eich cael restio.
Polisi Ffotograffiaeth
Mae taith 2012 yn dilyn polisi tynnu lluniau sydd yn seiliedig ar yr un a arferir gan daith Llundain. Mae'n nodi'r amodau sydd angen i ffotograffwyr eu cyflawni. Gobeithir y bydd unrhyw feiciwr, neu aelod o'r wasg, sydd am dynnu lluniau yn teimlo ei fod yn gallu parchu'r polisi hwn.
TAITH FEICIO NOETH Y BYD - POLISI FFOTOGRAFFIAETH A FFILMIO CAERDYDD
Dyma'r polisi cyntaf a luniwyd gan aelodau o Daith Feicio Noeth y Byd - Caerdydd.
POLISI 2012
Anogir pobl i dynnu lluniau drwy'r daith i gyd; dyma ffordd o dynnu sylw at y neges a gyhoeddir drwy gyfrwng y baneri a'r paent ar y cyrff. Gan mai mewn man cyhoeddus y cynhelir y daith, tuedda'r gyfraith i gefnogi hawliau'r ffotograffwyr yn hytrach na rhai'r unigolion ar y daith, ond mae rhai cyfyngiadau ar dynnu lluniau a fideos yn ystod y daith. Bwriad y polisi hwn yw gwrthweithio ffotograffiaeth ansensitif a allai godi. Hoffem greu amgylchedd lle y mae pob teithiwr yn teimlo ei fod yn ddiogel ac yn cael ei g/chefnogi. Rhaid i bob ffotograffydd sydd yno gadw at y polisi hwn. Gofynnir i'r sawl sydd yn tynnu'n groes, boed yn feiciwr neu'n aelod o'r wasg, adael y daith. Bydd y polisi hwn ar gael i bawb i'w lawrlwytho.
YMDDYGIAD FFOTOGRAFFWYR
Gofynnir i ffotograffwyr ddangos parch a bod yn gyfeillgar ac yn rhesymol ar hyd yr amser. Os byddwch yn peri i unrhyw deithiwr deimlo'n anghyfforddus, bydd gofyn ichi adael y man ymgynnull/teithio.
YN Y MAN YMGYNNULL (cyn y daith ac wedyn)
Gofynnwch ganiatâd cyn tynnu llun o deithiwr.
Ni cheir tynnu lluniau o bobl yn gwisgo neu'n dadwisgo, nac o gael eu peintio, oni bai fod y teithwyr yn gofyn.
Ni cheir tynnu lluniau o bobl yn y man a ddynodir fel yr un lle na chaniateir tynnu lluniau.
YN YSTOD Y DAITH
Dim lluniau agos o deithiwr heb ei g/chaniatâd.
RHOI'R POLISI MEWN GRYM (gennych chi, y teithwyr)
Gobeithiwn y bydd pob teithiwr yn ymwybodol o'r polisi ac yn teimlo'n ddigon cyfforddus i leisio ei f/barn ac i drafod y polisi. Os oes rhai na hoffent i neb dynnu eu llun adeg y daith, mae camau y gellir eu cymryd i rwystro hynny.
1) Cysylltwch â ffotograffydd TFNB Caerdydd - Leah Sian ar [email protected] neu siarad â hi yn un o'r cyfarfodydd. Bydd hi'n sicr o beidio â thynnu eich llun wedyn. Os cysylltwch â hi drwy e-bost, byddai llun o'ch wyneb yn help iddi eich adnabod ar y dydd.
2) Mae'r teithwyr ar TFNB Llundain yn defnyddio "Bwrdd Gorfodi'r Polisi Ffotograffiaeth", sef arwydd y gellir ei roi ar gerdyn gyda'r polisi a rhywbeth i'r perwyl "Tynnwyd y llun hwn heb ganiatâd". Gellir lawrlwytho copi yma: http://wiki.worldnakedbikeride.org/images/8/84/London2008photopolicyboard.pdf
Cludiant Cyhoeddus
Bydd taith 2012 yn cychwyn o fewn pellter beicio rhwydd o Orsaf Ganolog Caerdydd, lle y ceir gwasanaeth trenau da er mwyn teithio o rannau eraill o Gymru ac o Loegr.
Cofrestru
Nid oes rhaid cofrestru i ymuno â'r daith - mae modd ichi ddod yn ddirybudd ar y diwrnod. Mae, er hynny, yn help os oes gennym ryw syniad faint o bobl a ddisgwylir. Er mwyn rhoi eich enw i lawr, edrychwch ar ein grŵp Yahoo http://groups.yahoo.com/group/wnbr-cardiff/ . Gall y sawl sydd yn defnyddio Facebook hefyd gofrestru eu henwau drwy ddilyn y ddolen hon i'n tudalen 'digwyddiadau' http://www.facebook.com/cardiffwnbr .
Achlysuron
Mewn noson yng Nghanolfan y Chapter, yn Rhagfyr 2007, dangoswyd y ffilm gan Johnny Zapatos am y daith yn Llundain yn 2005. Bu cryn drin a thrafod cadarnhaol arni. I gyfrannu syniadau am ddangosiadau pellach neu am unrhyw weithgareddau eraill, unrhyw le yng Nghymru, ewch i WNBR Cardiff/Caerdydd, neu i'r grŵp Yahoo!
Cynllunio
Mae beicwyr Caerdydd wrthi'n cynllunio Taith Feicio Noeth y Byd 2012! Byddem yn falch iawn pe baech yn cysylltu â ni drwy WNBR Cardiff/Caerdydd neu drwy'r grŵp Yahoo! WNBR UK
Cyfarfodydd Cynllunio
’Does dim gwahaniaeth a fu gennych chi ran yn ein gwaith cynllunio o'r blaen, neu a ydych am ymuno â ni am y tro cyntaf yn 2012, bydd croeso mawr ichi i gymryd rhan yn y paratoadau eleni. Os hoffech gyfrannu, byddem yn falch iawn pe baech yn dod i'n cyfarfod cyntaf, neu'n postio neges 'r grŵp wnbr-cardiff/caerdydd Yahoo! . Ymunwch hefyd â'n grŵp ar Facebook, drwy ddilyn http://www.facebook.com/cardiffwnbr; fel yna byddwn ni'n gwybod eich bod am ddod!
Cyhoeddusrwydd
Posteri a Thaflenni
Gwaith ar y gweill yw cynllunio posteri a thaflenni 2012, ond bydd copïau ar gael yn y cyfarfodydd cynllunio i bwy bynnag sydd am helpu i roi cyhoeddusrwydd i’r daith. Os gofynnwch yn gwrtais, a chithau’n byw neu’n gweithio neu’n astudio yn y ddinas, efallai y gallwn i daro heibio â rhai ichi hyd yn oed. Os ydych yn byw yn bellach i ffwrdd, anfonwch e-bost ataf, a gallaf anfon fersiynau PDF y gallwch eu hargraffu eich hunain. Os oes gennych chi syniad gwirioneddol dda am fan i hysbysebu, siop feiciau, er enghraifft neu ganolfan beicio mynydd, efallai y gallwn i hyd yn oed fforddio stamp. Cofiwch na fydd Taith Feicio Noeth y Byd, Caerdydd, ond yn derbyn hyn a hyn o arian, swm go fach, tuag at gostau argraffu, oddi wrth WNBR y Deyrnas Unedig, felly defnyddiwch y posteri a’r taflenni gyda gofal, neu’n well byth, cefnogwch ni drwy argraffu / llungopïo eich rhai eich hunain (efallai yn y gwaith!) – diolch.
Sloganau a awgrymwyd
Oes gennych chi sloganau? Cewch eu hychwanegu yma neu rhowch wybod i mi. Gallaf gael cyfieithiad Saesneg/Cymraeg, os oes angen.
Sylw gan y cyfryngau
2009
- Wales Online Sioeau Sleidiau: "The World Naked Bike Ride in Cardiff" (direct link)
- WalesOnline, 14 Mehefin 2009: "Whacky races as naked cyclists take to Cardiff streets"
- WalesOnline, 13 Mehefin 2009: "Naked bike ride in Cardiff"
2008
- ITV Local YourNews, 16 Mehefin 2008: 'Cardiff Naked Bike ride', 'Cardiff Naked bike ride' a 'Cardiff world naked bike ride' clipiau fideo gan Sarah Garvey
- BBC Radio Cymru, 14 Mehefin 2008 - cyfweliad radio Cymraeg ag un o'r beicwyr ar y rhaglen "Post Cyntaf"*BBC Radio Wales, 14 Mehefin 2008: cyfweliad radio Saesneg â dau o'r beicwyr ar y rhaglen "Good Morning Wales"'
- South Wales Echo, 13 Mehefin 2008 : "Time to get on yer bike" gan Katie Bodinger
- South Wales Echo, 9 Mehefin 2008 : "Cyclists to tear a strip off polluters" gan Katie Bodinger
- Copenhagen Post, 9 Mehefin 2008: "Bare breasts and bicycle helmets: Nearly naked cyclists created a stir..." (yn bennaf am Copenhagen, ond yn sôn am daith Caerdydd)
- Bike For All (Cycling News), 6 Mehefin 2008: "English cities to see hundreds of naked cyclists" yn sylwi'n bennaf ar ddinasoedd y Deyrnas Unedig, ond yn sôn am daith Caerdydd)
Lluniau 2013
- [3] Rhaid cofrestru gydag Ipernity i weld y lluniau yn y grwp hwn sydd yn cynnwys pob blwyddyn, ond mae grwpiau blynyddol, gan gynnwys un i 2013, nad oes angen cymaint o noethni ynddynt ac y gellwch eu gweld heb gofrestru.
Lluniau 2012
Lluniau 2011
- [4]Taith Feicio Noeth Caerdydd / Cardiff Naked Bike Ride (flickr.com)
Lluniau 2010
- Christopher Marc Gullick (flickr.com)
- Deri Reed (web.me.com)
- bara-koukoug (flickr.com)
Lluniau hŷn
un llun, a hefyd:
Fideos
2011
- 1.Taith Feicio Noeth y Byd - Caerdydd / Cardiff - World Naked Bike Ride 2011.MPG
- 2. Taith Feicio Noeth y Byd - Caerdydd / Cardiff - World Naked Bike Ride 2011.MPG
- 3. Taith Feicio Noeth y Byd - Caerdydd / Cardiff - World Naked Bike Ride 2011.wmv
- 4. Taith Feicio Noeth y Byd - Caerdydd / Cardiff - World Naked Bike Ride 2011.wmv
- 5. Taith Feicio Noeth y Byd - Caerdydd / Cardiff - World Naked Bike Ride 2011.wmv
Hefyd ceir fideos yn y Grŵp Flickr y tynnwyd sylw ato uchod
2010
- Sharon Barmby (YouTube.com)
- Sharon Barmby (YouTube.com)
- Sharon Barmby (YouTube.com)
- Sharon Barmby (YouTube.com)
- Chris Gullick (YouTube.com)
- Chris Gullick (YouTube.com)
2008
<youtube v="Frw_gcXNIAc" />
Dolenni
Gwefannau
- WNBR United Kingdom ar y prif safle – cwestiynau a ofynnir yn aml, gwybodaeth a dolenni i deithiau eraill yn y Deyrnas Unedig.
- United Kingdom tudalen ar y wiki yma
Grwpiau trafod
grŵp Yahoo! *WNBR Cardiff/Caerdydd – Ymunwch i ni gael gwybod yn fras faint o bobl a ddaw, ac i chi ddarllen ein datganiadau ac i drafod y daith. Wedi ichi ymuno, byddwch yn gallu mynd i'r adran "Ffeiliau" i argraffu cardiau Cymraeg i'r daith maint A4 – gyda sloganau'r WNBR - i'w rhoi ar eich beic yn ystod y daith (am y fersyinau Saesneg, gweler Llundain) *WNBR UK - cyhoeddiadau a thrafod ar yr holl deithiau yn y Deyrnas Unedig.
Swyddog y wasg
Ronnie (cyd-gysylltydd WNBR Caerdydd)
sharon.basson@googlemail.com
07880 854678
I drefnu cyfweld â'r beicwyr neu i gael datganiad i'r wasg, galwch Gyd-gysylltydd y Daith yng Nghaerdydd.