Difference between revisions of "Cy:Caerdydd"

From World Naked Bike Ride
Jump to: navigation, search
(Grwpiau trafod)
Line 170: Line 170:
 
=== Grwpiau trafod ===
 
=== Grwpiau trafod ===
  
grŵp Yahoo! *[http://groups.yahoo.com/group/wnbr-cardiff/ WNBR Cardiff/Caerdydd]  – Ymunwch i ni gael gwybod yn fras faint o bobl a ddaw, ac i chi ddarllen ein datganiadau ac i drafod y daith. Wedi ichi ymuno, byddwch yn gallu mynd i'r adran "Ffeiliau" i argraffu ''' cardiau Cymraeg i'r daith''' maint A4 – gyda sloganau'r WNBR  - i'w rhoi ar eich beic yn ystod y daith (am y fersyinau Saesneg, gweler [[London|Llundain]])*[http://groups.yahoo.com/group/wnbr-uk/ WNBR UK] - cyhoeddiadau a thrafod ar yr holl deithiau yn y Deyrnas Unedig.''
+
grŵp Yahoo! *[http://groups.yahoo.com/group/wnbr-cardiff/ WNBR Cardiff/Caerdydd]  – Ymunwch i ni gael gwybod yn fras faint o bobl a ddaw, ac i chi ddarllen ein datganiadau ac i drafod y daith. Wedi ichi ymuno, byddwch yn gallu mynd i'r adran "Ffeiliau" i argraffu ''' cardiau Cymraeg i'r daith''' maint A4 – gyda sloganau'r WNBR  - i'w rhoi ar eich beic yn ystod y daith (am y fersyinau Saesneg, gweler [[London|Llundain]]) *[http://groups.yahoo.com/group/wnbr-uk/ WNBR UK] - cyhoeddiadau a thrafod ar yr holl deithiau yn y Deyrnas Unedig.''
  
 
=== Swyddog y wasg  ===
 
=== Swyddog y wasg  ===

Revision as of 20:00, 19 February 2010

Home > List of rides > UK > Cy:Caerdydd  •  Google this ride!

To see this page in English, follow this link: http://wiki.worldnakedbikeride.org/index.php?title=Cardiff#2008


Cardiff2008image.jpg


WNBR Caerdydd - Taith Feicio Noeth y Byd! - Sadwrn 12 Mehefin 2010


Mae Taith Feicio Noeth y Byd - Caerdydd - yn tynnu sylw at y taer angen i ddianc rhag dibynnu ar gerbydau, ac i ganolbwyntio, yn hytrach, ar rym a natur unigryw yr unigolyn.

  • Gwrthdystio yn erbyn dibynnu ar olew
  • Ymgyrchu i roi ffrwyn ar ddiwylliant y car
  • Hyrwyddo ynni gwyrdd
  • Cefnogi cludiant cynaliadwy
  • Gwneud beicio’n fwy diogel i bawb
  • Dathlu ein beiciau a’n cyrff

Cysyllter â

Cyfarfod Cynllunio Cyntaf 2010

Bydd y cyfarfod cynllunio cyntaf ar gyfer taith 2010 yn cael ei gynnal ar ddydd Sul, 21 Mawrth, mewn man addas a chanolog yng Nghaerdydd. Os hoffech awgrymu amser neu fan cyfarfod, byddem yn falch pe baech yn cysylltu drwy ddefnyddio un o'r cyfeiriadau a nodwyd. Bydd y manylion llawn yn cael eu cyhoeddi yn ystod wythnos olaf Chwefror. 

Os ydych chi'n awyddus i gynnig help, mawr neu fach, mewn unrhyw ffordd, cofiwch roi gwybod, neu os hoffech daro i mewn i gwrdd â rhai a fydd yn beicio gyda chi, cofiwch gysylltu â mi, oherwydd byddai'n galondid mawr i mi gael clywed gan bobl eraill. Ces i hwyl fawr llynedd ac ’roeddwn i'n teimlo'n hynod falch i'r daith fod mor llwyddiannus. ’Roeddwn hefyd wedi dysgu sgiliau gwerthfawr, gan ychwanegu at fy CV. Rhoddodd rywbeth diddorol imi siarad amdano mewn cyfweliadau am swyddi (a, do, fe ges i'r gwaith!). Beth am inni gwrdd i rannu syniadau ac i gael cyfle i chwerthin?

Rhoddwch i Gronfa Taith Feicio Noeth y Byd yn y Deyrnas Unedig

Mae Cronfa Taith Feicio'r Byd yn y Deyrnas Unedig yn rhoi arian i'r trefnwyr
lleol at argraffu posteri a thaflenni, at hysbysebu, at offer i'r daith ac yn y blaen.

Gofynnwn, yn garedig, ichi roddi yn hael.


Y Daith Nesaf

Dyddiad: Sadwrn 12 Mehefin 2010 - i'w gadarnhau
Amser: Ymgynnull am 3pm i ymbaratoi, i'ch peintio eich hun, i addurno eich beic ac yn y blaen. Cychwyn am 4pm
Lleoliad: Plas y Parc, y man glaswelltog y tu ôl i'r Amgueddfa Genedlaethol National Museum ac nid nepell o Brif Adeilad Prifysgol Caerdydd Cardiff University Main Building ]. Gweler isod am gyfeiriadau pellach.

Hanes

2009

62 o feicwyr a roddodd gychwyn i'r daith, yn ôl adroddiad Facebook event, ond gwnaethon ni godi rhagor o feicwyr wrth fynd ymlaen, a 67 a oedd yno ar y diwedd.

Adroddiad Taith 2009 - Ar ddydd Sadwrn, 13 Mehefin, cymerodd Caerdydd ran am yr ail dro yn Nhaith Feicio Noeth y Byd. Llwyddiant mawr oedd y daith, a oedd yn tynnu sylw at yr angen i beidio â dibynnu cymaint ar olew yn y dyfodol ac at y modd y mae'n hawdd i feicwyr gael eu hanafu yn nhraffig y ddinas. ’Roedd hefyd yn hyrwyddo rhyddid i'r corff. Wedi peth oedi wrth aros i'r heddlu ein hebrwng ac wrth newid y llwybr arfaethedig ar y funud olaf, dyma'r daith yn cychwyn am 4:15p.m. gyda 62 o feicwyr. Cafwyd ymateb gwych gan y cyhoedd; mae'n ymddangos bod y si wedi mynd ar led fod y daith yn cael ei chynnal ac ’roedd fel pe bai pobl yn ein disgwyl. Wedi codi pump o feicwyr ychwanegol hanner ffordd, dyma fynd yn ôl drwy'r dref a gorffen gyda 67 o feicwyr, nifer eithaf parchus. ’Roedd diddordeb y cyfryngau yn anhygoel. ’Roedden ni ar newyddion nosweithiol BBC Wales, a rhoddwyd tipyn o sylw inni yn Wales on Sunday ac yn y South Wales Echo. Cafodd y daith sylw yn Gymraeg hefyd, er enghraifft ar y blog hwn: [1] ’Roedd pawb wedi cael hwyl, ac mae taith y flwyddyn nesaf yn rhywbeth ’rydyn ni'n gwir edrych ymlaen ato. Gobeithio y gallwn ddenu nifer mwy y tro nesaf. ’Rwy'n credu bod nifer o bobl newydd am ymuno â ni, felly ’rydyn ni ar y blaen eisoes i 2010.

2008

Cynhaliwyd Taith Feicio Noeth y Byd yng Nghaerdydd am y tro cyntaf ar 14 Mehefin, 2008. Cafodd y daith ei chynllunio o fewn amser eithaf byr gan griw brwdfrydig o feicwyr, a mynd o nerth i nerth a wnaeth y teimlad o frwdfrydfedd ac o ymroddiad yn eu plith. Dyma achlysur a oedd yn ysbrydoli, ac yn sgil hynny dechreuodd diddordeb yn nhaith 2009 fynd ar led i wahanol gyfeiriadau.

Adroddiad Taith 2008 Llwyddiant ysgubol oedd Taith Feicio Noeth y Byd pan gafodd ei chynnal gyntaf yng Nghaerdydd, yn daith gwbl anhygoel yn ôl sawl un! ’Roedd yr haul yn tywynnu, er gwaethaf y rhagolygon a awgrymai na fyddai'n braf, ac am 4.00 p.m., dyma 37 o feicwyr yn mentro allan i strydoedd prysur y brifddinas, a'r hwrlibwrli cymaint yn fwy am mai Diwrnod yr Hen Filwyr oedd hi a phobl eraill yn paratoi at gyngerdd gan Bruce Springstein! Dyma'r gymysgfa ryfeddol o bobl, wedi eu haddurno mewn amryw ffyrdd a chan wahanol sloganau, yn ymlwybro o Barc Cathays i Fae Caerdydd ac yn ôl wedyn drwy briffyrdd y ddinas. Cafwyd ymateb bendigedig gan y cyhoedd, a nhwthau wedi cipio pob un o'r taflenni ar y daith mewn dim o dro! Rhoddwyd sylw i'r achlysur, mewn ffordd gadarnhaol, mewn sawl man ar y cyfryngau. ’Roedd yr heddlu a fu'n hebrwng y beicwyr yn effeithlon ac yn gyfeillgar. ’Roedd y beicwyr a gymerodd ran yn dod o Gaerdydd a'r fro yn bennaf, ond ’roedd ychydig o Fryste, o Henffordd ac o fannau eraill. Curo eu dwylo'n frwd a wnaeth y beicwyr wedi cyrraedd pen ein taith yng Ngerddi Sophia, ac addo mynd yn ôl ymhen y flwyddyn i fwynhau achlysur mwy cadarnhaol a grymus byth.

Am y daith

Man ymgynnull

Yn 2008 ac yn 2009, man caeedig, tawel, glaswelltog a choediog oedd y man ymgynnull, un hawdd cael hyd iddo y tu ôl i'r Amgueddfa Gendlaethol. Mae'r Amgueddfa yn y ganolfan ddinesig, ym Mharc Cathays, yn union drws nesaf i Neuadd y Ddinas, â'i thŵr adnabyddus. Mae'r man o dan sylw rhwng Plas y Parc a Choedlan yr Amgueddfa. Dyma fap map of the assembly location. Dyma'r man y bwriadwn gwrdd eto yn 2010.

Cod gwisgo

Dewch mor noeth ag y mentrwch. Mae noethni'n gwneud datganiad gwych, a bydd llawer ohonon ni'n noeth lymun gorn eto eleni. Eto i gyd, os teimlwch yn fwy cyfforddus ag ychydig ddillad amdanoch, mae hynny'n hollol iawn hefyd. Ar y teithiau blaenorol, bu rhai'n gwisgo siorts, bronglwm, dillad nofio, penwisg, gwallt gosod, sbectol haul ac yn y blaen, a rhai'n peintio eu cyrff. ’Roedd y rhan fwyaf yn gwisgo esgidiau ac wedi dod â bag i gario eu dillad. ’Rydyn ni'n frwd o blaid peintio ac addurno'r corff, addasu beiciau at yr achlysur, dod â hambyrddau hadau hawdd eu cludo a ffyrdd creadigol eraill o dynnu sylw.

Llwybr

Llwybr arfaethedig Taith Feicio Noeth y Byd - Caerdydd, 2010

Man Ymgynnull - Parc Cathays - Y man glaswelltog wrth Brif Adeilad Prifysgol Caerdydd (wedi ei ffinio gan Blas y Parc a chan Goedlan yr Amgueddfa).

Cychwyn am 4:00pm - Ymdrefnu ar lwybr sydd yn wynebu Coedlan yr Amgueddfa. I'r chwith i mewn i Goedlan yr Amgueddfa.

Coedlan yr Amgueddfa, Heol y Ddinas, i'r chwith i mewn i Rodfa'r Brenin Edward VII. Heol Gerddi'r Orsedd, i'r dde i mewn i Blas y Parc. Heol y Brodyr Llwydion, Tŷ'r Brodyr, i'r dde i mewn i Heol y Frenhines. Heol Sant Ioan, Stryd Working, yr Aes, Heol Pont yr Aes, Stryd Bute, Stryd Herbert, Rhodfa Lloyd George. Ar ôl Heol Hemmingway, dilynir y llwybr beicio.

Dros y groesfan i fynd heibio i du blaen Canolfan y Mileniwm, y tu cefn i Adeilad Pen y Pier ac yna oedi o flaen y Senedd.

Ailgychwyn a mynd ymlaen heibio i du blaen Adeilad Pen y Pier, gan ddychwelyd heibio i du blaen Canolfan y Mileniwm. I'r chwith ar draws y cwrt o flaen y Ganolfan ac i'r groesfan sydd yn arwain i mewn i'r lôn i'r gorllewin ar Rodfa Lloyd George. I'r chwith i mewn i Stryd Herbert, ymlaen i Sgwâr Callaghan, Heol y Santes Fair, y Stryd Fawr, Stryd y Castell, a Dwyrain Heol y Bont-faen. Ar y llwybr beicio wedyn (y palmant chwith) dros Bont Caerdydd er mwyn dod i ben y daith yng Ngerddi Sophia. Cynghorir beicwyr i ddod â bag neu â basged i gludo eu dillad ac ati.

Cyfreithlondeb

’Roedd yr heddlu wedi hwyluso'r teithiau yn 2008 ac yn 2009; cafodd y beicwyr fod y swyddogion yn bur gymwynasgar, ac ’roedden nhw'n cydnabod yn llawn ein hawl i wrthdystio yn ein dewis ddull ein hunain. Yn 2009, dywedon nhw hefyd fod ymateb y cyhoedd wedi rhoi argraff arnyn nhw y tro cynt. Yn 2008, ’roedd un o'r hen filwyr a oedd yn cymryd rhan yn nathliadau Diwrnod yr Hen Filwyr wedi dweud wrth yr heddlu ei fod yn meddwl ei bod yn ardderchog. Ac egluro'r sefyllfa mewn ffordd syml, nid yw noethni ei hun yn erbyn y gyfraith yn y Deyrnas Unedig, ond gall fod yn anghyfreithlon defnyddio noethni gyda'r bwriad o aflonyddu neu er achosi braw neu ofid. Os na fyddwch yn ymddwyn mewn ffordd dramgwyddus neu anweddus, ni fyddwch yn eich cael restio.

Cludiant Cyhoeddus

Bydd taith 2010 yn cychwyn o fewn pellter beicio rhwydd o Orsaf Ganolog Caerdydd, lle y ceir gwasanaeth trenau da er mwyn teithio o rannau eraill o Gymru ac o Loegr.

Cofrestru

Nid oes rhaid cofrestru i ymuno â'r daith - mae modd ichi ddod yn ddirybudd ar y diwrnod. Mae, er hynny, yn help os oes gennym ryw syniad faint o bobl a ddisgwylir. Er mwyn rhoi eich enw i lawr, edrychwch ar ein grŵp Yahoo http://groups.yahoo.com/group/wnbr-cardiff/ . Gall y sawl sydd yn defnyddio Facebook hefyd gofrestru eu henwau drwy ddilyn y ddolen hon i'n tudalen 'digwyddiadau' http://www.facebook.com/cardiffwnbr . 

Achlysuron

Mewn noson yng Nghanolfan y Chapter, yn Rhagfyr 2007, dangoswyd y ffilm gan Johnny Zapatos am y daith yn Llundain yn 2005. Bu cryn drin a thrafod cadarnhaol arni. I gyfrannu syniadau am ddangosiadau pellach neu am unrhyw weithgareddau eraill, unrhyw le yng Nghymru, ewch i WNBR Cardiff/Caerdydd, neu i'r grŵp Yahoo!

Cynllunio

Mae beicwyr Caerdydd wrthi'n cynllunio Taith Feicio Noeth y Byd 2010! Byddem yn falch iawn pe baech yn cysylltu â ni drwy WNBR Cardiff/Caerdydd neu drwy'r grŵp Yahoo! WNBR UK

Cyfarfodydd Cynllunio

’Does dim gwahaniaeth a fu gennych chi ran yn ein gwaith cynllunio o'r blaen, yn 2008 neu yn 2009, neu a ydych am ymuno â ni am y tro cyntaf yn 2010, bydd croeso mawr ichi i gymryd rhan yn y paratoadau eleni. Os hoffech gyfrannu, byddem yn falch iawn pe baech yn dod i'n cyfarfod cyntaf, neu'n postio neges 'r grŵp wnbr-cardiff/caerdydd Yahoo! . Ymunwch hefyd â'n grŵp ar Facebook, drwy ddilyn http://www.facebook.com/cardiffwnbr; fel yna byddwn ni'n gwybod eich bod am ddod!

Cyhoeddusrwydd

Poster

I daith 2009, argraffwyd ychydig bosteri A4. Os oes angen rhagor, gellir lawrlwytho ffeil PDF o

ac argraffu'r poster yn lleol.


Sloganau a awgrymwyd

Dros y byd, beicio ac ynni glân

Y noeth a’r doeth garia’r dydd

Herio'r byd ar feic i'r Bae

Open your mind & ride! / Agor dy feddwl a cher!

Oes gennych chi ragor o sloganau? Cewch eu hychwanegu yma neu rhowch wybod i mi. Gallaf gael cyfieithiad Saesneg/Cymraeg, os oes angen.

Sylw gan y cyfryngau

2009

2008

Lluniau

  • [2](Wilstephens)
  • [3] (Niltiac1)
  • [4] (Niltiac1)
  • [5] (Niltiac1)
  • [6] (Niltiac1)
  • [7] (Niltiac1)

Fideos

2008

<youtube v="Frw_gcXNIAc" />

Dolenni

Gwefannau

  • WNBR United Kingdom ar y prif safle – cwestiynau a ofynnir yn aml, gwybodaeth a dolenni i deithiau eraill yn y Deyrnas Unedig.

Grwpiau trafod

grŵp Yahoo! *WNBR Cardiff/Caerdydd – Ymunwch i ni gael gwybod yn fras faint o bobl a ddaw, ac i chi ddarllen ein datganiadau ac i drafod y daith. Wedi ichi ymuno, byddwch yn gallu mynd i'r adran "Ffeiliau" i argraffu cardiau Cymraeg i'r daith maint A4 – gyda sloganau'r WNBR - i'w rhoi ar eich beic yn ystod y daith (am y fersyinau Saesneg, gweler Llundain) *WNBR UK - cyhoeddiadau a thrafod ar yr holl deithiau yn y Deyrnas Unedig.

Swyddog y wasg

Ronnie (cyd-gysylltydd WNBR Caerdydd)
sharon.basson@googlemail.com
07880 854678

I drefnu cyfweld â'r beicwyr neu i gael datganiad i'r wasg, galwch Gyd-gysylltydd y Daith yng Nghaerdydd.

Grwpiau lleol sydd yn cefnogi'r achos

Categorïau